Cyhoeddi enw dynes 22 oed fu farw mewn damwain
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes a fu farw mewn damwain ffordd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul.
Bu farw Emma Louise Llewellyn, 22 oed, o Wenfô ger Caerdydd, wedi i ddau gar daro yn erbyn ei gilydd ar ffordd yr A477 rhwng Rhos-goch a Llanteg am 5:25pm.
Roedd Ms Llewellyn yn teithio mewn car Peugeot 206 lliw gwyrdd.
Dyn o ardal Rhisga, Gwent, oedd yn gyrru'r cerbyd arall, Kia Sportage glas.
Cafodd Ms Llewellyn ei chludo i Ysbyty Treforys, Abertawe ond bu farw'n ddiweddarach.
Dywedodd ei theulu eu bod yn "meddwl am ac yn gweddïo dros y teithwyr eraill".
"Rydym yn diolch i'r gwasanaethau brys a'r staff ysbyty am eu hymdrechion wrth roi triniaeth i Emma."
Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- 11 Mawrth 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol