Lincoln 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd gêm Wrecsam oddi cartref yn erbyn Lincoln nos Fawrth ei chynnal er roedd 'na amheuaeth am gyflwr y cae yn Sincil Bank oherwydd y tywydd gaeafol.
Ond wedi archwiliad o'r cae fore Mawrth daeth cadarnhad y byddai'r gêm yn mynd yn ei blaen a rheolwr y Dreigiau, Andy Morrell, yn cael ei ddymuniad.
Roedd wedi gobeithio na fyddai'r gêm yn cael ei gohirio gan y byddai wedyn yn golygu dod o hyd i gyfle i chwarae mewn amserlen sydd eisoes yn dynn.
Ac fe gafodd ei blesio ymhellach wedi i Wrecsam frwydro yn ôl o fod ar ei hol hi i gipio'r triphwynt.
Gôl i'w rwyd ei hun gan Chris Westwood yn yr hanner cyntaf olygodd fod Wrecsam ar ei hol hi, ond yn yr ail hanner sicrhawyd y fuddugoliaeth trwy goliau Brett Ormerod a Dele Adebola.
"Mae'n bwysig ein bod yn taro'n ôl," meddai Andy Morrellar ôl iddyn nhw golli oddi cartref yn Dartford. Dyna a wnaed.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2013
- 5 Mawrth 2013
- 2 Mawrth 2013