Cwpl o Sir Benfro wedi'u cyhuddo o esgeuluso plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl o Eglwyswrw, yng ngogledd Sir Benfro, wedi bod o flaen ynadon Hwlffordd wedi eu cyhuddo o esgeuluso plentyn, wedi marwolaeth eu mab wyth oed.
Y gred yw bod Dylan Mungo Seabridge wedi marw yn ei gartref ym mis Rhagfyr 2011.
Wnaeth Glynn a Julia Seabridge, ill dau yn 46 oed, ddim pledio yn ystod yr achos ddydd Mawrth.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe.
Fe fydd y ddau'n mynd o flaen y llys eto ar Fawrth 22.