Ceryddu'r AC Bethan Jenkins am yfed a gyrru?
- Cyhoeddwyd

Bydd pleidlais yn y Cynulliad i benderfynu a ddylai Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, gael ei cheryddu am yfed a gyrru.
Plediodd Ms Jenkins yn euog i gyhuddiad o yfed a gyrru wedi iddi gael ei harestio yng Nghaerdydd ym mis Hydref y llynedd.
Casglodd adroddiad gan bwyllgor safonau ymddygiad y cynulliad ei bod wedi dwyn anfri ar y sefydliad.
Mae cynnig yn galw ar y cynulliad i gymeradwyo'r dyfarniad ar yr agenda ar gyfer dydd Mercher.
Ar Hydref 31 cafodd yr AC ei hatal gan yr heddlu ac roedd yr alcohol yn ei gwaed yn ddwywaith y lefel gyfreithiol.
Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis.
Wrth ymddiheuro ar 么l yr achos llys am ei hymddygiad, dywedodd ei bod yn difaru'r digwyddiad 'o waelod calon'.
Fydd Ms Jenkins ddim yn apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor ac ni fydd yn y cynulliad ar gyfer y drafodaeth.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan y byddai yn Llundain yng nghwmni cyn-weithwyr ffatri gydrannau ceir Visteon i drafod eu pensiynau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012