BBC Cymru Fyw

Corff wedi ei ddarganfod yn afon Elái yng Nghaerdydd

Published
image copyrightSouth Wales Police
image captionAeth Mr Thompson i'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod corff wedi ei ddarganfod yn afon Elái ger Heol Penarth yng Nghaerdydd.

Dyw'r corff ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol.

Mae'r heddlu'n dweud fod teulu Ben Thompson - 34 oed o Hwlffordd, a ddiflannodd ar ôl mynd i weld gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2 - wedi cael gwybod am y datblygiad.

Roedd Mr Thompson wedi teithio i Gaerdydd gyda'i ffrind wedi iddo ennill tocynnau ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Straeon perthnasol

  • Dyn ar goll: Gwraig yn apelio'n daer