Ysgol gynradd i gau yn Sir y Fflint
- Published
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau ei benderfyniad i gau ysgol yn Sir y Fflint ym mis Awst eleni.
Bydd y plant sydd eisoes wedi cofrestru yn Ysgol Rhes y Cae yn parhau â'u haddysg mewn ysgolion cyfagos.
Dywed Cyngor Sir y Fflint y bydd swyddogion y cyngor a'r Esgobaeth yn gweithio gyda'r teuluoedd sy'n weddill yn yr ysgol a'r staff yn ystod y cyfnod pontio tan i'r ysgol gau ar Awst 31 eleni.
Yn ôl y cyngor sir, fe wnaethon nhw ac Esgobaeth Llanelwy gynnal ymgynghoriadau gyda chymuned yr ysgol ynglŷn â'r cynnig i gau'r ysgol oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol.
Yn dilyn y broses statudol, anfonwyd y cynnig at Lywodraeth Cymru i gael penderfyniad gan Weinidogion Cymru.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Medi 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol