Achub dau yn dilyn tân mewn tŷ ger Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Cafodd dau o bobl eu hachub yn dilyn tân mewn tŷ ger Aberteifi.
Llwyddodd trydydd person i ddianc o'r adeilad yn Rhosygilwen ger Rhos-hyl, Sir Benfro tua 3.30am ddydd Mercher.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod dyn a menyw wedi eu hachub o ystafell wely ar lawr cynta'r tŷ, ynghyd â nifer o anifeiliaid anwes.
Roedd yr eiddo yn cael ei adnewyddu a'r gred yw bod y tân wedi dechrau mewn boeler biomas ar y llawr cyntaf.
Cafodd diffoddwyr o Grymych ac Aberteifi eu galw i ddiffodd y tân.
Mae ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal i achos y tân.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol