Caerdydd 1-1 Caerlŷr

Yr eilydd Rudy Gestede achubodd y pwynt i Gaerdydd, a hynny wedi 93 munud.

Peniodd y Ffrancwr heibio Kasper Schmeichel mewn diweddglo cyffrous yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd Caerlŷr yn edrych fel eu bod ar eu ffordd i ennill ar ôl i beniad Michael Keane eu rhoi ar y blaen 18 munud o'r diwedd.

Mae Caerdydd nawr bedwar pwynt yn glir ar y brig, gyda gêm mewn llaw dros Hull yn yr ail safle.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 36 20 72
2. Hull 37 11 68
3. Watford 37 25 66
4. Crystal Palace 37 21 65
5. Caerlŷr 37 27 59
6. Nottm Forest 37 7 57

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.