Trydaneiddio: Gobaith am 'swyddi lleol' yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Bydd trenau fel hyn yn teithio rhwng Llundain a de CymruFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Network Rail, bydd moderneiddio'r rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain yn torri 20 munud oddi ar siwrnai tair awr

Bydd cwmnïau fydd yn gweithio ar y buddsoddiad mwyaf yn rhwydwaith rheilffordd Cymru ers oes Fictoria yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr lleol, yn ôl rheolwyr y prosiect.

Bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu wrth i'r rhan Gymreig o'r cynllun gwerth £850 miliwn i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe fynd yn ei flaen.

Dywed Network Rail y bydd mwy o swyddi'n cael eu creu cyn gynted ag y bydd y gwaith o greu'r rhwydwaith newydd yn gorffen yn 2018.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Network Rail Cymru, Mark Langman, y byddai'r cwmni yn ceisio defnyddio gweithwyr lleol.

'Adnoddau lleol'

"Mae'n rhaid inni gyflogi'r bobl orau ar gyfer y cynllun ond fe fyddwn ni'n annog contractwyr i wneud y mwyaf o adnoddau lleol, gan sicrhau y bydd gan weithwyr y sgiliau i wneud swyddi eraill," meddai.

Ychwanegodd y byddai "cannoedd" o swyddi'n cael eu creu ar draws y gadwyn gyflenwi wrth i'r rheilffordd gael ei thrydaneiddio.

"Rydym wedi amcangyfrif y bydd angen tua 120 o bobl i gynnal a chadw'r rheilffordd unwaith y bydd y gwaith adeiladau'n dod i ben," meddai.

Bydd storfa cynnal a chadw yn cael ei chodi yn Abertawe ar gyfer y trenau newydd fydd yn cael eu defnyddio ar y rhwydwaith.

Dywedodd Mr Langman fod denu arbenigedd lleol yn broblem am nad oedd rheilffordd drydan wedi cael ei adeiladu yng Nghymru o'r blaen.

'Rhatach'

Yn ôl Netrwork Rail, bydd moderneiddio'r rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain yn torri 20 munud oddi ar siwrnai tair awr.

Dywed y cwmni fod trenau sy'n cael eu pweru gan geblau trydanol yn rhatach i'w rhedeg na'r rheiny sy'n defnyddio diesel oherwydd bod cost tanwydd a'r gost o gynnal a chadw'r rhwydwaith yn llai.

Bydd rhwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd hefyd yn cael ei drydaneiddio.

Mae disgwyl i'r cynllun hwnnw, sydd werth £350 miliwn, gael ei gwblhau rhwng 2019 a 2024.

Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar ochr ddwyreiniol y cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru.

Ni fydd y gwaith adeiladu yn dechrau yng Nghymru tan 2015 ac fe fydd llawer o'r gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y nos.

Dywedodd Mr Langman y byddai gwasanaethau yng Nghymru o'r un safon â gwledydd eraill yn Ewrop pan fyddai'r gwaith wedi'i gwblhau yn 2018.

Ychwanegodd fod Cymru ar hyn o bryd ar "waelod y tabl" o wledydd gyda rhwydwaith reilffordd drydanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol