Trafod casgliadau cwest milwr yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Michael MaguireFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Michael Maguire: Bwled grwydr darodd ei ben.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wdi dweud eu bod yn hyderus mai digwyddiad "unigryw" a arweiniodd at farwolaeth milwr yn Sir Benfro.

Cafodd rheithfarn o ladd anghyfreithlon ei chofnodi yng nghwest Michael Maguire, milwr o Iwerddon a fu farw ym mis Mai 2012.

Roedd y milwr 21 oed, aelod o Fataliwn Cyntaf y Gatrawd Frenhinol Wyddelig, yn hyfforddi yn ardal "ddiogel" safle'r fyddin yng Nghastellmartin pan gafodd ei saethu yn ei ben.

Ddydd Mercher roedd cynrychiolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cwrdd â swyddogion o'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

'Digwyddiad prin'

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc: "Mae trafodaethau wedi'u cynnal rhwng cynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdod y Parc yn dilyn casgliadau'r cwest i farwolaeth milwr yn safle'r fyddin yng Nghastellmartin.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn dros y blynyddoedd ynglŷn â rheoli'r rhan bwysig yma o'r Parc Cenedlaethol ac, yn dilyn y cyfarfod, rydym yn hyderus mai digwyddiad prin ac unigryw oedd y digwyddiad trist hwn.

"Byddwn yn parhau i drafod gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r dyfodol o ran rheolaeth a mynediad i'r safle ar un o rannau mwya' eiconig yr arfordir sy'n denu cannoedd o filoedd o bobl bob blwyddyn."

Clywodd y cwest yng Nghaerdydd ei fod wedi cael ei ladd wedi i beiriant saethu danio 0.6 milltir (un cilometr) i ffwrdd.

Bwled grwydr darodd ei ben.

Perygl

Dywedodd arbenigwr arfau'r fyddin wrth y cwest nad oedd milwr oedd yn anelu at darged wedi saethu at y môr oherwydd methiannau diogelwch.

Clywodd y cwest y gallai pobl ar draeth Freshwater West 1.6 milltir (2.5 cilometr) i ffwrdd o'r ardal saethu fod wedi bod mewn perygl y diwrnod y cafodd Mr Maguire ei ladd.

Roedd o mewn cae lle'r oedd milwyr yn arfer bwyta tua hanner milltir i ffwrdd o'r ardal saethu pan gafodd ei ladd.

Doedd Mr Maguire, a ddaeth o Sir Corc, ddim yn gwisgo helmed.

Clywodd y cwest fod milwyr eraill hefyd wedi bod mewn perygl o gael eu saethu.

Ar ôl y cwest, roedd llefarydd ar ran Y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud: "Rydym yn meddwl am deulu Michael Maguire a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Fe fyddwn yn ystyried sylwadau'r crwner i sicrhau y byddwn ni'n gwneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i atal damwain fel hyn ddigwydd eto.

"Nid yw'n addas i ni ddweud mwy oherwydd bod ymchwiliadau i farwolaeth Michael Maguire yn dal yn parhau."