Trwyddedau teledu ar gael ym Mangor a'r Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd
Setiau teleduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Y diwrnod cau ar gyfer y cynigion yw Ebrill 24

Mae Ofcom, y corff sy'n cadw golwg ar ddarlledu, wedi gwahodd cynigion ar gyfer lansio gorsafoedd teledu lleol ym Mangor a'r Wyddgrug.

Dywedodd Ofcom eu bod wedi ailhysbysebu'r drwydded ar gyfer teledu lleol yn Abertawe am nad oedd ymgeisydd yn ystod rownd gyntaf y broses drwyddedu.

Y llynedd Made TV oedd y cynigydd llwyddiannus i redeg yr orsaf leol yng Nghaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod 'na alw am fwy o raglenni lleol ar wahân i'r rheiny sy'n cael eu cynnig gan y BBC a darlledwyr masnachol.

30 ardal

Cafodd Bangor a'r Wyddgrug eu cynnwys ar restr lleoliadau posib ar gyfer teledu lleol gafodd ei chyhoeddi gan Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2011.

Ond nid oedden nhw ymysg y lleoliadau gafodd eu hysbysebu ar gyfer rownd gyntaf trwyddedu.

Ddydd Mercher fe wnaeth Ofcom wahodd cynigion i ddarparu gwasanaethau teledu lleol mewn 30 ardal yn y DU cyn yr ail rownd o drwyddedu gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Y diwrnod cau ar gyfer y cynigion yw Ebrill 24.

Yn gynharach ym mis Mawrth cyhoeddodd Ofcom eu bod wedi dyfarnu 19 trwydded ar gyfer ardaloedd gafodd eu hysbysebu yn y rownd gyntaf.

Y gobaith yw i rai sianelu a enillodd y trwyddedau hyn ddarlledu cyn diwedd 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol