Ceryddu'r AC Bethan Jenkins am yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ms Jenkins wedi ymddiheuro i Aelodau Cynulliad

Mae'r Cynulliad wedi cefnogi adroddiad pwyllgor oedd yn dweud bod Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, wedi dwyn anfri ar y sefydliad.

Roedd hi wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru wedi iddi gael ei harestio yng Nghaerdydd ym mis Hydref y llynedd.

Casglodd adroddiad y pwyllgor safonau ymddygiad ei bod wedi dwyn anfri ar y sefydliad.

Dywedodd llefarydd ar ei rhan ddydd Mercher ei bod yn Llundain ddydd Mercher yn cefnogi cyn-weithwyr ffatri gydrannau ceir Visteon.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler: "Mater i'r AC yw a ddylid mynd i'r Cynulliad.

"Fe fydden i'n disgwyl bod hon yn flaenoriaeth uchel ac rwy'n siwr y bydd yr AC yn dymuno ystyried cofnod o'r ddadl heddiw."

'Aros'

Ond dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black fod ei habsenoldeb yn "ddirmygus".

Dywedodd AC Plaid Cymru Jocelyn Davies, prif chwip y blaid, fod Miss Jenkins wedi rhoi gwybod ei bod yn Llundain.

"Pe bai Aelodau Cynulliad am aros nes ei bod hi'n bresennol, fe fydden ni o blaid hyn ac rwy'n gwybod y byddai Bethan o blaid hyn ...," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Dylai Bethan Jenkins ein hwynebu ni yn y Cynulliad ... fel pob gwleidydd cyfrifol."

Ar Hydref 31 cafodd yr AC ei hatal gan yr heddlu ac roedd yr alcohol yn ei gwaed ddwywaith y lefel gyfreithiol.

Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis.

Wrth ymddiheuro ar ôl yr achos llys am ei hymddygiad, dywedodd ei bod yn difaru "o waelod calon".

Fydd Ms Jenkins ddim yn apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor.