BBC Cymru Fyw

Rhyddhau person o gerbyd yn Y Bala

Published

Cafodd un person ei ryddhau o gerbyd ar ôl i gar daro wal tŷ yng Ngwynedd.

Digwyddodd y ddamwain yng Nghae Gadlas, Bala, ddydd Mercher tua 6:30pm.

Defnyddiodd diffoddwyr tân o Gorwen a'r Bala offer arbenigol i'w ryddhau.

Nid oes gwybodaeth am gyflwr y person.

Straeon perthnasol

  • Car wedi taro wal tŷ yn Y Bala