Ysgol Glanwydden: 'Cefnogaeth unfrydol'

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Roedd llythyr yn honni fod gormod o Gymraeg yn Ysgol Glanwydden erbyn hyn

Roedd cefnogaeth unfrydol i arweinyddiaeth Ysgol Glanwydden yng nghyfarfod blynyddol llywodraethwyr yr ysgol nos Fercher, yn ôl Cyngor Conwy.

Fis diwethaf cafodd llythyr ei ddosbarthu'n honni bod yr ysgol bellach wedi mynd yn "rhy Gymraeg a Chymreig".

Roedd y llythyr dadleuol a gafodd ei anfon at rieni Ysgol Glanwydden ym Mae Penrhyn, ger Llandudno, yn eu galw i'r cyfarfod yno ar Fawrth 13, gan honni fod gormod o Gymraeg yno erbyn hyn, a bod hynny wedi digwydd heb ymgynghori â'r rhieni.

Ond dywedodd y Cyngor am y cyfarfod: "Mynychodd nifer fawr o rieni Gyfarfod Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol Glanwydden, a mynegwyd eu cefnogaeth unfrydol i ragoriaeth y ddarpariaeth ar gyfer pob disgybl o bob gallu.

"Lleisiwyd canmoliaeth benodol i lwyddiant darpariaeth dwyieithrwydd yr ysgol a'r modd yr oeddent yn medru teilwra hynny yn unol â gallu'r plentyn a dymuniad rhiant.

"Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd pleidlais unfrydol o ddiolch i arweinyddiaeth y Pennaeth a'r staff cymwys, ysgogol a thalentog yn Ysgol Glanwydden."

Yn ôl adroddiad diweddara'r corff arolygu Estyn yn 2008, mae'r ysgol - sydd â thua 300 o ddisgyblion - mewn ardal Seisnigaidd, a'r Gymraeg yn cael ei dysgu yno fel ail iaith.

Mae Estyn yn ystyried Ysgol Glanwydden yn ysgol dda iawn - a chafodd radd 2 yn yr arolwg diwetha'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol