Cwmni gemwaith Clive Ranger yn nwylo gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni gemwaith Clive Ranger wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae gan y cwmni siopau yng Nghaerdydd, Abertawe, Bryste a Chaerfaddon.

Mae 'na ansicrwydd am 34 o swyddi.

Dywedodd Richard Hawes ar ran y gweinyddwyr Deloitte: "Mae Clive Ranger Cyfyngedig yn frand adnabyddus ledled y De Orllewin a De Cymru, ond mae wedi wynebu dirywiad mewn masnachu o ganlyniad i'r amodau economaidd anodd ar hyn o bryd.

"Bydd y siopau yn parhau i fasnachu fel arfer wrth i ni chwilio am brynwr ar gyfer y busnes. "