Cerddwr wedi marw ar yr A465
- Cyhoeddwyd

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Mae cerddwr 46 oed wedi cael ei ladd wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Fynwy.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A465 rhwng y troad i'r Fenni a Chylchfan Hardwick tua 7pm nos Fercher.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y cerddwr o'r Blaenau ger Brynmawr wedi marw yn y fan a'r lle.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol