Gethin Jenkins yn gapten yn lle Sam Warburton

  • Cyhoeddwyd
Gethin Jenkins
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Cymru angen o leia' saith pwynt yn erbyn Lloegr i ennill y bencampwriaeth.

Gethin Jenkins sy'n arwain Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn gan fod Ryan Jones wedi'i anafu.

Nid yw Ryan Jones ar gael ar gyfer y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yn erbyn Lloegr ar ôl anafu ei ysgwydd yn y fuddugoliaeth dros Yr Alban ddydd Sadwrn.

Bydd Cymru angen o leia' saith pwynt yn erbyn Lloegr i ennill y bencampwriaeth.

Ond mae rhai'n synnu mai Gethin Jenkins gafodd ei ddewis yn gapten nid Sam Warburton.

Roedd y sylwebydd a chyn-flaenasgellwr Cymru, Martyn Williams, wedi dweud mai Alun Wyn Jones ddylai arwain Cymru.

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn fu'n holi cyn gapten Cymru, Robert Jones, am obeithion Cymru ddydd Sadwrn nesa'

Warburton

Roedd y clo Alun Wyn Jones a Warburton wedi dechrau yn erbyn Yr Albanwyr a chafodd Warburton ei enwi'n seren y gêm yn y fuddugoliaeth o 28 i 18 ym Murrayfield.

Er bod Warburton wedi dychwelyd, parhaodd Ryan Jones yn gapten wedi iddo arwain y tîm yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.

Wedi i Loegr guro'r Eidal yn Twickenham o 18-11 ddydd Sul byddai buddugoliaeth yn erbyn Cymru yn sicrhau Camp Lawn iddyn nhw - y gynta' mewn degawd.

Ond petai Cymru'n ennill o wyth pwynt neu fwy a sicrhau eu bod yn sgorio mwy o geisiau na Lloegr yn y bencampwriaeth, tîm Rob Howley fydd yn ennill y bencampwriaeth.

Bydd ennill o saith pwynt yn golygu bod Cymru'n ennill y bencampwriaeth oherwydd mwy o geisiau.

Os yw Lloegr yn cael dau neu fwy o geisiau, bydd Cymru a Lloegr yn rhannu'r teitl.

Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (capt, Toulon), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch) Ian Evans (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Toby Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Scott Andrews (Gleision), Andrew Coombs (Dreigiau), Aaron Shingler (Scarlets), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).