Yn euog o drosedd derfysgol
- Cyhoeddwyd

Cafwyd dyn 32 oed o Gaerdydd yn euog o feddu ar wybodaeth fyddai'n ddefnyddiol i derfysgwr.
Roedd Norman Faridi yn ddieuog o ail gyhuddiad, meddu ar gylchgrawn al Qaida, a bydd trydydd cyhuddiad, meddu ar lawlyfr am ddulliau ymladd, ar gofnod am nad oedd rheithgor yn gallu penderfynu.
Cafodd ei arestio yn ardal Y Waun Ddyfal, Caerdydd, ym mis Gorffennaf 2012 ar ôl ymchwiliad Unedau Gwrth-derfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru a Phrydain.
Clywodd y llys fod y myfyriwr peirianyddol, oedd wedi graddio ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2010, wedi gwneud cais i fod yn wirfoddolwr Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn 2012.
Cafodd ei gais ei wrthod.
39,000
Roedd yn gweithio fel pobydd pan ddaeth yr heddlu i'r tŷ a mynd â'i gyfrifiadur.
Daeth yr heddlu o hyd i 39,000 o ffeiliau oedd wedi eu dileu.
Clywodd y llys ei fod wedi lawrlwytho fideo o'r eithafwr Abu Hamza a bod yn ei feddiant lawlyfr o'r enw 39 Ways to Serve and Proceed in Jihad.
"Dwi'n anghytuno'n llwyr â'r ddogfen," meddai wrth y llys.
Roedd i fod i gael ei ddedfrydu yn yr Old Bailey yn Llundain ddydd Iau ond bydd yn y ddalfa tan yr wythnos nesa' oherwydd yr angen i drafod manylion estraddodi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2012