Cyngor yn cyhoeddi dyddiad cau swyddfeydd rhanbarthol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi y byddant yn cau tair o'u swyddfeydd rhanbarthol ar ddiwedd y mis.
Bydd y swyddfeydd yn Nhregaron, Cei Newydd ac Adpar ger Castell Newydd Emlyn yn cau ar Fawrth 28 fel rhan o gynllun i arbed £86,000.
Dywed y cyngor eu bod wedi gofyn i siopau a swyddfeydd post yn y tri lleoliad i gadw bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd a gwastraff yr ardd.
Cymeradwyodd y cabinet adroddiad oedd yn argymell cau'r tair swyddfa ym mis Ionawr eleni.
Arbed arian
Roedd y swyddfeydd yn derbyn taliadau, fel taliadau treth y cyngor.
Daeth y cais i'w cau ar ôl cynnydd o 450% o ran taliadau ar y we a 3,200% dros y ffôn er 2006.
Yn yr un cyfnod bu gostyngiad o tua 35% yn nifer y taliadau oedd yn cael eu talu yn y swyddfeydd.
Roedd swyddogion y cyngor wedi amcangyfrif fod y gost fesul taliad yn y swyddfeydd rhwng £1.43 a £4.58i'w gymharu â choost o 50c mewn swyddfeydd post.
Dywedodd yr adroddiad fod y cyngor eisoes wedi cyflwyno ciosg talu hunanwasanaeth yn y swyddfeydd yn Aberteifi a Chanolfan Rheidol, Aberystwyth ac y byddai hyn yn arbed arian o ran staffio.
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell ad-drefnu gwasanaethau yn swyddfeydd y cyngor yn Aberteifi, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chanolfan Rheidol yn Aberystwyth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013