Wrecsam 0-0 Luton

Published

Fe wnaeth Wrecsam golli cyfle i ddychwelyd i frig y Blue Square Bet ar ôl gem ddi-sgor yn erbyn Luton.

Roedd cyfleoedd i Dele Adebola a Martin Riley i Wrecsam yn yr hanner cyntaf.

Bydd Wrecsam yn chwarae Mansfield, sydd ar frig yr adran, ddydd Mawrth ar y Cae Ras.

Gohirwyd y gem rhwng Casnewydd a Macclesfield oherwydd cyflwr y cae ar ôl cyfnod o law trwm.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol