Leanne Wood i ymladd etholaeth Rhondda yn 2016

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
disgrifiad o’r llunMae Leanne Wood wedi sefyll yn etholaeth Rhondda mewn dau Etholiad Cyffredinol

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi y bydd yn ymladd etholaeth y Rhondda yn etholiadau nesaf y cynulliad cenedlaethol yn 2016.

Gwnaed y cyhoeddiad mewn araith ym Mae Caerdydd ddydd Gwener i nodi blwyddyn ers iddi gael ei hethol yn arweinydd.

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Leighton Andrews yw AC presennol yr etholaeth.

Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 6,739 o bleidleisiau dros Blaid Cymru yn Etholiad Cynulliad 2011.

Etholiad Cyffredinol

Mae Ms Wood, sy'n hanu o'r Rhondda ac yn dal i fyw yno, yn Aelod Cynulliad Rhanbarth Canol De Cymru.

Mae hi wedi sefyll dros etholaeth y Rhondda mewn dau Etholiad Cyffredinol gan golli i'r Blaid Lafur bob tro.

Ar hyn o bryd does gan ymgeiswyr etholiad Cynulliad mo'r hawl i sefyll dros etholaeth a bod ar restr ranbarthol eu pleidiau.

Ond mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y gallai newidiadau i'r rheolau ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr ranbarthol.

Dywedodd Leighton Andrews fod Rhondda wedi gwrthod Leanne Wood yn 2001 ac na fyddai'r canlyniad yn wahanol y tro nesa.

"Rhyw ystum gwleidyddol yn unig yw sefyll yn y Rhondda. Mae'n amlwg ei bod yn bwriadu dod yn ôl i'r cynulliad ar y Rhestr Rhanbarthol, a bydd pobl Rhondda yn gwybod hynny," meddai.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol