Siop yn cau wedi 200 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae siop bentref sydd wedi gwasanaethu cymuned wledig am 200 mlynedd yn mynd i gau.
Dywed y perchnogion nad yw'r busnes yn llwyddo ar ôl i archfarchnad agor yn Llandrindod ym Mhowys.
Gwariodd Glyn a Joan Bailey £30,000 yn ailwampio'r siop yn Hawau, wedi symud yno wyth mlynedd yn ôl.
Ond dywedodd y ddau bod eu henillion o hyd at £3,000 yr wythnos wedi haneru yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi i siop Tesco agor.
Bydd drysau'r siop yn cau ar Fawrth 29.
Dywedodd Mrs Bailey bod y siop, sydd â thŷ'n rhan o'r adeilad, wedi bod ar agor am 200 mlynedd.
Symudodd Mr a Mrs Bailey i Hawau o'r Amwythig yn 2005, ond dywedodd y ddau eu bod wedi bod yn cynnal y siop o'u pensiynau preifat eu hunain am y pum mlynedd diwethaf.
"Roedden ni wedi gobeithio y byddai pobl leol yn ein cefnogi ond nid felly, "meddai Mrs Bailey.
"Felly bydd y siop, fel yr ysgol, yn cau oherwydd diffyg cefnogaeth."
Dywedodd Mrs Bailey, 62, yr hoffai ddiolch i gwsmeriaid oedd wedi cefnogi'r siop.
"Rydw i a Glyn wedi gweithio'n galed iawn i geisio dod â siop glan gyda stoc dda i'r pentref ac roeddem ni wedi llwyddo i gynyddu trosiant yn ddramatig," ychwanegodd.
"Roeddwn yn medru cyflogi dau berson yn rhan-amser ac roedden ni'n gwasanaethu'r gymuned yn y siop a swyddfa bost."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2011
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2007
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2006