Maer Aberystwyth yn dilyn ôl traed ei mam

  • Cyhoeddwyd
Wendy Morris-Twiddy a'i mam Mona MorrisFfynhonnell y llun, Wendy Morris-Twiddy
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Wendy Morris-Twiddy bod ei mam wedi rhoi cyngor da iddi

Mae merch maer benywaidd gyntaf tref Aberystwyth yn dilyn ôl traed ei mam wrth iddi hithau hefyd ddal y swydd seremonïol.

Etholwyd Mona Morris yn faer benywaidd gyntaf Aberystwyth yn 1978 a bu yn y swydd am yr eildro yn 1990.

Bydd ei merch, Wendy Morris-Twiddy'n dod yn faer yn swyddogol ym mis Mai, y tro cyntaf i fenyw ddilyn ôl troed ei mam i'r swydd.

Dywedodd Mrs Morris-Twiddy, sy'n rheolwr marchnata papur newydd lleol The Cambrian News: "Rydw i wrth fy modd i ddod yn faer, yn arbennig oherwydd y byddaf yn dilyn ôl traed fy mam, sydd wedi bod yn fentor gwych i mi.

"Hoffwn ddiolch i'm cyd-gynghorwyr am gefnogi fy enwebiad a dwi'n edrych ymlaen at wasanaethu'r dref fel maer hyd eithaf fy ngallu."

Dywedodd clerc tref Aberystwyth, Jim Griffiths, ei bod yn foment hanesyddol.

"Mona oedd y fenyw gyntaf i ddod yn faer yn Aberystwyth a Wendy a Mona fydd y fam a merch cyntaf i ddal y swydd," meddai.

"Mae tadau a meibion wedi dal y swydd cyn hyn ond dyma'r tro cyntaf i'r merched."

Nid dyma'r unig foment hanesyddol i ddigwydd yn siambr cyngor y dref yn ystod y 12 mis diwethaf.

Y llynedd etholwyd cynghorydd newydd, Dylan Lewis, yn faer yn ystod ei gyfarfod cyntaf gyda chyngor y dref.

Credir mai dyma'r tro cyntaf yn Aberystwyth i gynghorydd newydd ei ethol gael ei ddewis yn faer yn ystod ei gyfarfod cyntaf.

Yn gynharach yn 2012, penderfynodd un o feiri ieuengaf erioed y dref ddod â'i yrfa wleidyddol i ben - yn 22 oed.

Roedd Richard Boudier yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda swydd llawn amser yn ogystal â'i ddyletswyddau seremonïol.

Roedd wedi dod yn gynghorydd tref yn 2008 pan oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol