Diflaniad Kyle Vaughan: Dal i chwilio wedi 10 wythnos
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad dyn ifanc 24 oed o ardal Trecelyn yn parhau gyda'u hymholiadau 10 wythnos ar ôl iddo ddiflannu.
Ddydd Sadwrn fe fyddan nhw'n holi ac yn codi ymwybyddiaeth cefnogwyr rygbi ar drenau ar y ffordd i'r gêm yn Stadiwm y Mileniwm.
Does neb wedi gweld Kyle Vaughan ers Rhagfyr 30, 2012.
Mae'r heddlu'n tybio ei fod bellach wedi marw.
Dywedodd Heddlu Gwent bod staff arbenigol yn chwilio amdano.
Mae wyth o bobl wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'i ddiflaniad.
Mae disgwyl iddyn nhw ateb eu mechnïaeth ar Fawrth 21.
Y tro diwethaf i Kyle Vaughan gael ei weld oedd ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys rhwng 11:00pm a 11:45pm ar Ragfyr 30 y llynedd.
Roedd yn gwisgo crys-T tywyll, trowsus tri-chwarter denim, esgidiau gwyn, ac yn gwisgo cadwyn aur a het dywyll.
Am 11:45pm y noson honno daeth yr heddlu o hyd i'w gar Peugeot 306 wedi ei adael ar ochr y ffordd - roedd wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a welodd Kyle Vaughan ar Ragfyr 30, ffonio'r heddlu ar 101, neu gysylltu gydag elusen Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2013