Cymru dan-20 15-28 Lloegr dan-20
- Cyhoeddwyd

Tîm rygbi Lloegr dan-20 yw Pencampwyr y Chwe Gwlad am y drydedd flwyddyn yn olynol ar ôl iddyn nhw roi diwedd ar obeithion Cymru o ennill y Gamp Lawn ym Mharc Eirias, Bae Colwyn nos Wener.
Ar ôl crafu buddugoliaeth yn y gêm gyntaf o'r bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon, mae carfan ifanc Cymru wedi mynd o nerth i nerth gyda buddugoliaethau oddi cartref yn Ffrainc, Yr Eidal a'r Alban i efelychu'r prif dîm.
Ond mewn gêm gorfforol iawn yn y glaw ym Mharc Eirias, roedd pac anferthol y Saeson â'r oruchafiaeth a Lloegr gafodd 62% o'r meddiant.
Daeth holl bwyntiau Cymru o giciau cosb y maswr Sam Davies.
Roedd hyfforddwr Cymru dan-20 Danny Wilson wedi dweud mai un maes yr oedd am weld yn gwella oedd disgyblaeth gan i'r Cymry weld sawl cerdyn melyn yn ystod y gystadleuaeth.
Ond yn y gêm hon fe welwyd cerdyn melyn arall, y tro hwn i'r wythwr Ieuan Jones, ac fe ddaeth ail gais Lloegr ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan oedd y Cymry i lawr i 14 dyn.
Daeth trydydd cais i Loegr yn yr ail hanner, gyda throsiad, dwy gic gosb a chic adlam i Harry Slade.
Dywedodd yr hyfforddwr Danny Wilson ar ôl y gêm: "Fe fyddwn ni'n adeiladu ar hyn ar gyfer Cwpan y Byd.
"Ry' ni wedi colli yn erbyn tîm gwell heno ond mae gennym ddigon o bethe positif i adeiladu arnyn nhw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2012