Buddugoliaeth i Gaerdydd oddi cartref

Mae Caerdydd saith pwynt ar y blaen ar frig y bencampwriaeth ar ôl curo Sheffield Wednesday oddi cartref ddydd Sadwrn.

Ar ddiwedd hanner cyntaf siomedig fe wnaeth Don Cowie roi tîm y brifddinas ar y blaen ar ôl i Wednesday fethu a chlirio o gic cornel.

Daeth yr ail gôl gan beniad Matthew Connolly ar ôl 65 munud.

Ymdrech orau Wednesday oedd cic rydd Miguel Llera.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 37 22 75
2. Hull 38 10 68
3. Watford 38 24 66
4. Crystal Palace 38 18 65
5. Nottm Forest 38 8 60
6. Caerlŷr 38 25 59

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.