Uwchgynghrair
- Cyhoeddwyd

Seintiau Newydd 6-0 Bangor
Lido Afan v Y Drenewydd (wedi gohirio)
Airbus UK 2-0 Port Talbot
Caerfyrddin 3-2 Prestatyn
Llanelli 4-3 Aberystwyth
Fe wnaeth y Seintiau Newydd gryfhau eu safle ar frig yr adran drwy roi cweir i Fangor, y tîm oedd yn ail yn yr uwchgynghrair.
Roedd yna hatric i Alex Darlington, gyda Mike Wilde yn sgorio dwy a Matthew Williams yn cwblhau'r sgorio.
Fe symudodd Airbus i'r ail safle ar ôl curo Port Talbot 2-0.
Oherwydd glaw trwm bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gêm rhwng Lido Afan a'r Drenewydd.
Roedd yna saith gol ar barc Stebonheath wrth i Lanelli guro Abertyswth a chau'r bwlch ar waelodion yr uwchgynghrair.
Fe wnaeth Caerfyrddin sicrhau tri phwynt gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Prestatyn. Corey Thomas, Liam McCreesh a Casey Thomas sgoriodd i'r tîm cartref.
Nos Wener
Cei Connah 0-5 Y Bala