Dod o hyd i gorff ar draeth ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae corff wedi'i ddarganfod ar draeth yng ngogledd Ynys Môn.
Fe ddaeth Gwylwyr y Glannau Caergybi o hyd i'r ddynes ym Mhorth Dafarch, i'r gogledd-orllewin o Fae Trearddur bnawn Sadwrn.
Dywed yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn un amheus a'u bod wedi rhoi gwybod i deulu'r ddynes.