'Cytundeb' rhwng y pleidiau ar reoli'r wasg
- Cyhoeddwyd

Mae 'na gytundeb wedi ei wneud rhwng y tair prif blaid wleidyddol ynglŷn â sut i reoleiddio'r wasg, yn ôl Harriet Harman o'r Blaid Lafur.
Fe ddaw wedi trafodaethau dros nos rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur a Gweinidog Cabinet.
Awgrymodd Ms Harman y bydd y Siarter Frenhinol newydd yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth.
Ond mae'r Gweinidog Diwylliant, Maria Miller yn dweud bod "cytundeb yn agos" a bod angen i arweinwyr y pleidiau drafod.
Doedd y Prif Weinidog David Cameron ddim am fynd mor bell â chael Siarter Frenhinol...
Ychwanegodd Ms Harman ei bod wedi siarad gydag aelodau o fudiad Hacked Off sydd wedi dweud eu bod "yn falch iawn" o'r cytundeb.
Roedd y trafodaethau dros nos yn swyddfa arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband.
Oliver Letwin oedd yn cynrychioli'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg oedd yn y cyfarfod ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Gobeithiol
Yn ôl amserlen Tŷ'r Cyffredin mae 'na bleidlais i fod ar y mater ddydd Llun.
Wedi'r cyhoeddiad bore Llun dywedodd Ms Harman na fyddai'r bleidlais yn y prynhawn yn mynd yn ei flaen.
Ond mae'n debyg y bydd 'na ddatganiad a thrafodaeth fer yno.
Ddydd Sul dywedodd y Canghellor George Osborne ei fod yn obeithiol y gallai'r pleidiau ddod i gytundeb cyn y bleidlais.
Ddydd Iau cyhoeddodd Mr Cameron fod trafodaethau rhwng arweinwyr y pleidiau ar argymhellion Adroddiad Leveson wedi methu.
Cafodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei alw nôl o daith i'r Dwyrain Pell er mwyn cymryd rhan yn y bleidlais allweddol.
Fe gyrhaeddodd Mr Jones Japan ddydd Mercher i gychwyn y daith fasnach i'r Dwyrain Pell, oedd yn cynnwys ymweld â Fietnam, Y Philippins a Hong Kong tan Fawrth 24.
Dydd Llun daeth cadarnhad y bydd yn dychwelyd i barhau â'r daith ar y newyddion na fyddai'r bleidlais yn mynd yn ei blaen.
"Mae cael gwasg rydd yn gwbl allweddol i'n cymdeithas a dwi'n gwbl gefnogol i'r prif weinidog ar y mesur mae'n ei gymryd i sicrhau y bydd system o reoli'r wasg yn gweithio," meddai.
Hunan-reoli
Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod newyddiadurwyr yn hacio galwadau ffôn preifat.
Daeth Yr Arglwydd Leveson i'r casgliad fod papurau newydd wedi cael effaith dinistriol ar "fywydau pobl ddiniwed".
Roedd o'r farn nad yw'r drefn bresennol o hunan-reoli yn gweithio, ac roedd o am ddeddfu er mwyn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.
Byddai'r ddeddfwriaeth newydd yn asesu'r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud ei waith yn iawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012