Llofruddiaeth: Heddlu'n dal i holi dyn 53 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae plismyn yn dal i holi dyn 53 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn yn ardal Llanrhymni yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Llanrhymni 1am ddydd Sul.

Aed â dyn 24 oed i'r Ysbyty Athrofaol lle bu farw.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Dylai unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Cranleigh Rise i gysylltu â'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 1111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol