Heddlu Gogledd Cymru yn cyhoeddi enw'r ddynes a gafwyd hyd iddi ar draeth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r ddynes a gafwyd hyd iddi ar draeth ar Ynys Môn dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i Valerie Lavorato, 60 oed o'r Fali, ar draeth Porth Dafarch ddydd Sadwrn.

Gwylwyr y Glannau Caergybi ddaeth o hyd iddi i'r gogledd-orllewin o Fae Trearddur.

Does 'na ddim mwy o fanylion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol