Teithiau cyfnewid: Cyngor o blaid atal lletya

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr Pont Steffan
Disgrifiad o’r llun,
Bu'n rhaid i bwyllgor efeillio tref Llanbed ganslo taith i Ffrainc yn ystod gwanwyn y llynedd wedi i'r polisi newid

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo polisi sy'n rhwystro disgyblion rhag lletya dros nos â theuluoedd yn ystod teithiau tramor.

Golyga'r polisi, sydd wedi bodoli ers dros flwyddyn, nad yw myfyrwyr o dramor yn gallu aros gyda theuluoedd pan maen nhw'n dod i Geredigion.

Ddydd Mawrth pleidleisiodd y cabinet yn unfrydol o blaid y polisi.

Deellir fod o leiaf dri chyngor sir arall yng Nghymru, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot, yn gweithredu polisïau tebyg.

Parau

Yn ôl adroddiad gerbron y cabinet, roedd y polisi wedi ei seilio ar yr angen i warchod diogelwch y plant.

Cytunwyd y dylid parhau i gynnal ymweliadau cyfnewid oherwydd y manteision mawr i blant ond y dylid hepgor yr elfen o letya.

Yn ôl yr adroddiad, cytunwyd y dylai'r plant barhau i dreulio peth amser gyda theuluoedd fel rhan o'u hymweliad ond y dylai hynny ond digwydd os yw plant yn ymweld â theuluoedd mewn parau ac yn cario rhif cyswllt argyfwng drwy'r adeg, a bod amser wedi'i gytuno ar gyfer dychwelyd y plant i'w llety dros nos.

Mae'r adroddiad wedi dweud bod rhai ymweliadau eisoes wedi'u trefnu pan wnaed y penderfyniad hwn a chytunwyd bwrw ymlaen â'r rheiny er mwyn osgoi cymhlethdod.

Fodd bynnag, byddai'n rhaid i unrhyw ymweliadau arall ddefnyddio mathau eraill o lety megis gwestai, hostelau ac yn y blaen, yn ôl yr adroddiad.

Mae pob ymweliad cyfnewid newydd sydd wedi'i drefnu dros y 12 mis diwethaf wedi defnyddio mathau eraill o lety a does dim ymweliadau wedi'u canslo neu heb eu cynnal yn sgil hyn, meddai'r adroddiad.

'Siomedig'

Ond dywedodd Selwyn Walters, aelod o bwyllgor efeillio tref Llanbedr Pont Steffan â Saint-Germain-sur-Moine yng ngogledd orllewin Ffrainc, y bu'n rhaid i'r pwyllgor ganslo taith i Ffrainc yn ystod gwanwyn y llynedd oherwydd bod adran addysg Ceredigion wedi newid ei pholisi.

"Roeddem wedi cydweithio â'r ysgol i groesawu grŵp o oedolion a phlant o Saint-Germain-sur-Moine yn ystod mis Hydref 2011 ac roedden ni wedi trefnu taith debyg i Ffrainc yr amser hwn y llynedd.

"Rwy'n siomedig fod yr adran addysg wedi newid y polisi oherwydd ni fydd plant yn cael y cyfle i fyw gyda theuluoedd a chael bwyd gyda'r nos yn eu cartrefi sydd wedi bod yn rhan fawr o deithiau gefeillio.

"Wrth gwrs, ei bod yn bwysig i fod yn ofalus ond rwy'n meddwl bod yr adran addysg wedi gorymateb ..."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Yn y 12 mis diwethaf cynhaliwyd pob ymweliad cyfnewid oedd wedi'i drefnu ac mae ysgolion a grwpiau ieuenctid wedi mynd ar nifer o dripiau gan gydymffurfio â'r drefn newydd.

Fframwaith

"Ar ôl llwyddo i roi'r polisi ar waith heb unrhyw drafferthion mawr, penderfynwyd gofyn i'r cabinet a'r cyngor llawn ei gymeradwyo."

Dywedodd y cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi llunio fframwaith cyffredin ar gyfer rheoli ymweliadau addysgol.

Gallai awdurdodau lleol fabwysiadu'r cyfarwyddyd yn ei gyfanrwydd neu lunio gweithdrefnau lleol sy'n adlewyrchu'r canllawiau cenedlaethol.

Mae'r fframwaith cenedlaethol yn argymell un dull penodol, ac ni ddylid cymryd ei fod yn ddehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol