Gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Iwerddon yn 2011Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Colli oedd hanes Cymru y tro diwethaf i'r ddau dîm wynebu ei gilydd yn 2011

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd 'na gêm gyfeillgar ym mis Awst yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Daw'r cyhoeddiad ddyddiau cyn i Gymru wynebu'r Alban oddi cartre' yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Fe fydd y gêm yn erbyn Y Gwyddelod nos Fercher, Awst 14, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'r gêm tua mis cyn y bydd Cymru yn chwarae dwy gêm arall yn y gemau rhagbrofol oddi cartref yn erbyn Macedonia a gartref yn erbyn Serbia.

Mae Cymru a Gweriniaeth Iwerddon wedi chwarae yn erbyn ei gilydd 12 gwaith ers 1960.

Y tro diwethaf i'r ddau wynebu ei gilydd, Y Gwyddelod enillodd o 3-0 yn Nulyn ym Mhencampwriaeth Cwpan y Cenhedloedd.

"Fe fydd y gêm yn brawf defnyddiol i ni cyn wynebu dwy gêm Cwpan y Byd," meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.

"Mae amseru'r gêm gyfeillgar yn agos at ddechrau'r tymor yn golygu bod gêm cartref yn ddefnyddiol o ran cwtogi ar y teithio.

"Dwi'n siwr iawn y bydd ein ffrindiau o Iwerddon yn teimlo yr un fath.

"Mae eu chwaraewyr nhw yn adnabyddus i ni, fel yr ydyn ni iddyn nhw ac felly mae'n addo bod yn gêm wych i gychwyn y tymor."

Sweden ac Awstria fydd y ddwy wlad y bydd Gweriniaeth Iwerddon yn eu hwynebu fis Medi yng ngemau Cwapan y Byd.

Nos Wener yn yr Alban bydd tîm Cymru heb Joe Allen a Steve Morison.

Nos Fawrth nesaf bydd Cymru yn wynebu Croatia yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol