Cynulleidfa'n torri record
- Cyhoeddwyd

Dathlu'r fuddugoliaeth o 30-3 yn erbyn Lloegr.
Roedd 1.1m yng Nghymru'n gwylio ail hanner gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr ar BBC Un ddydd Sadwrn.
Record oedd hon gan fod 1m wedi gwylio gêm Gamp Lawn Cymru yn erbyn Ffrainc yn 2008.
Dywedodd Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru: "Mae'r manylion rhyfeddol yn dangos balchder y cyhoedd."
Hon oedd y drydedd gynulleidfa ucha' ers troad y ganrif.
Roedd 1.43m yng Nghymru wedi gwylio Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd a 1.33m wedi gwylio'r Seremoni Gloi.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis: "Unodd y genedl ddydd Sadwrn i wylio un o'r digwyddiadau mwya' o bosib' yn hanes y gêm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2013