Pwyso a mesur newidiadau i gymorth gofal plant
- Cyhoeddwyd

Bydd rhai rhieni yng Nghymru'n gallu hawlio hyd at 20% o gostau gofal plant yn ôl o 2015 ymlaen, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU.
Mae hynny'n cyfateb i hyd at £1,200 y plentyn pob blwyddyn.
Bydd rhieni'n cael hawlio 20% yn ôl o gyfanswm o thua £6,000 - yr hyn mae'r llywodraeth wedi amcangyfrif yw cost gofal plant ar gyfartaledd.
Mae Llafur wedi beirniadu'r cynllun, gan ddweud y bydd rhieni'n siomedig nad ydyn nhw'n cael cymorth yn gynt.
Dim ond i blant dan bump oed fydd y polisi'n berthnasol i ddechrau, ond bydd yn cael ei ehangu i gynnwys plant o dan 12 oed maes o law.
Mae hyn yn golygu y byddai rhyw 110,000 o deuluoedd yng Nghymru sydd â phlant dan 12 oed yn gallu hawlio'r arian unwaith bydd y cynllun wedi'i gyflwyno'n llawn.
I fod yn gymwys i gael arian bydd angen i'r ddau riant weithio - neu un yn achos rhieni sengl - a gyda phob rhiant yn ennill llai na £150,000.
Os nad yw un o'r ddau riant yn gweithio, fydd teuluoedd ddim yn cael cymorth.
£1.4 biliwn
Mae costau gofal plant ym Mhrydain ymhlith yr uchaf yn y byd, gyda nifer o rieni sydd â dau neu fwy o blant yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr yn ariannol i'r ddau riant weithio.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'r cynlluniau, allai gostio £1.4 biliwn, yn "hwb uniongyrchol i bocedi teuluoedd sy'n gweithio".
Yn ôl y llywodraeth, mae disgwyl i'r cynllun newydd helpu 2.5 miliwn o deuluoedd yn y diwedd - sy'n llawer mwy na'r nifer sy'n derbyn talebau gofal plant ar hyn o bryd.
Dim ond tua 5% o gyflogwyr ym Mhrydain sy'n cynnig y talebau.
Ond dyw hi ddim yn eglur eto a fydd rhieni'n elwa mwy o dan y cynllun newydd o'i gymharu â'r cynllun talebau.
Dyw'r talebau ond ar gael i bobl sy'n gweithio i gyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun, ond mae disgwyl i'r cynllun newydd fod ar gael i bob rhiant sy'n cwrdd â'r meini prawf.
Bydd rhieni sydd eisoes yn derbyn talebau'n gallu parhau i wneud hynny neu newid i'r system newydd os ydyn nhw'n dymuno.
Ond bydd y cynllun talebau'n cau i unrhyw rieni newydd, fydd yn cael eu symud i'r cynllun newydd.
'Siomedig'
Dywedodd Mr Cameron fod gormod o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu am ofal plant a'u bod yn "aml yn cael eu hatal rhag gweithio'r oriau maen nhw'n dymuno".
"Mae hyn yn hwb i bocedi teuluoedd sy'n gweithio'n galed," meddai.
Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg: "Mae costau cynyddol gofal plant yn un o'r heriau mwya' sy'n wynebu rhieni ac mae'n golygu'n syml nad ydy nifer o famau a thadau yn gallu fforddio gweithio."
Dywedodd llefarydd Llafur ar addysg, Stephen Twigg: "Dair blynedd wedi i'r llywodraeth yma gymryd yr awenau, bydd rhieni'n siomedig eu bod yn gorfod disgwyl dwy flynedd a hanner arall i gael unrhyw gymorth gyda chostau gofal plant.
Ychwanegodd na fyddai'r mesur yn digolledu pobl am y toriadau sydd eisoes wedi'u gwneud i'r cymorth i deuluoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd7 Medi 2011
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd17 Medi 2010