26 blynedd o garchar i griw treisgar

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,
Cyhoeddwyd y dedfrydau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae pump o bobl wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 26 blynedd yn dilyn ymosodiad y tu allan i dafarn yng Ngwynedd ym mis Mai y llynedd.

Cafodd Darrell Jones ei adael mewn pwll o waed gydag anafiadau difrifol wedi i griw ymosod arno gyda bat pêl-fâs ger tafarn y Ship Aground yn Nhalsarnau.

Pan aeth ei frawd Dylan i'w gynorthwyo, cafodd ei fraich ei thorri gan yr ymosodwyr.

Cyffuriau

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Mr Jones wedi dweud iddo weld y diffynnydd Sion Hughes yn cymryd cocên yn honedig yn nhoiledau'r dafarn, ac wedi sôn am y peth wrth gariad Mr Hughes.

Bu dadlau rhwng y ddau ddyn ac fe adawodd Hughes mewn car, ond dychwelodd yn ddiweddarach mewn car oedd yn cael ei yrru gan Cari Elen Lewis, 25 oed.

Daeth Hughes, ei frawd Ashley Hughes a llanc 16 oed allan o'r car ac ymosod ar Mr Jones gyda'r batiau pêl-fâs.

Roedd llanc arall 16 oed yn bresennol, ond derbyniodd y llys nad oedd yntau wedi defnyddio arf.

Dywedodd yr erlynydd Jayne La Grua mai Ashley Hughes darodd yr ergyd gyntaf cyn i'r lleill ymuno, gan daro Mr Jones gyda'r batiau cyn ei ddyrnu a'i gicio ar lawr.

Pan glywodd Dylan Jones y sŵn aeth i gynnig cymorth i'w frawd, ond fe drodd y criw arno yntau ac fe anelodd Sion Hughes ergyd at ei ben gyda bar metel.

Wrth i Mr Jones godi ei fraich i amddiffyn ei hun, torrwyd ei fraich gan rym yr ergyd.

'Esiampl ddrwg'

Wrth gyhoeddi'r dedfrydau, dywedodd y Barnwr Phillip Hughes: "Mae angen i chi ac eraill sy'n clywed am yr achos yma ddeall na fydd y llysoedd yn diodde'r math yma o drais ar y strydoedd gyda'r nos.

"Mae'r peth yn llawer rhy gyffredin, ac mae hon yn esiampl ddrwg iawn ohono."

Plediodd Ashley Hughes, 22 oed o Gerlan, Llanllyfni, yn euog i ddau gyhuddiad o achosi newid corfforol difrifol ac un o fod ag arf yn ei feddiant. Cafodd ei garcharu am naw mlynedd gyda 18 mis ychwanegol am fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi eraill.

Roedd Sion Hughes, 20 oed o Gerlan, hefyd wedi pledio'n euog i drais, ac fe gafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd dan glo.

Cafodd un o'r llanciau 16 oed, a gafwyd yn euog yn dilyn achos llys, bedair blynedd mewn carchar ieuenctid, ac fe gafodd y llanc arall 16 oed 18 mis dan glo wedi iddo bledio'n euog o achosi niwed corfforol difrifol ar y sail nad oedd wedi defnyddio arf.

Roedd Cari Lewis, mam sengl o Drefan, Penrhyndeudraeth, wedi pledio'n euog i'r ddau gyhuddiad gan mai hi oedd wedi cludo'r gweddill i'r digwyddiad.

Cafodd ei charcharu am ddwy flynedd a hanner, a dywedodd y barnwr wrthi ei bod ar fai gan ychwanegu: "Pe baech chi heb yrru'r gweddill i'r safle, mae'n debyg na fyddai unrhyw beth wedi digwydd."