BBC Cymru Fyw

Cyhuddo o geisio llofruddio dyn yng Nghaerdydd

Published

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd nos Sul.

Bydd y dyn 25 oed yn ymddangos o flaen ynadon yn y brifdddinas yn ddiweddarach.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Ffordd Casnewydd tua 10:30am ddydd Sul, ger gwesty'r Lynx.

Cafodd dyn 23 oed anafiadau difrifol i'w wddw a chafodd driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

Mae wedi cael gadael yr ysbyty erbyn hyn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

  • Arestio dyn wedi ymosodiad