Tân Prestatyn: Achos fis nesaf
- Cyhoeddwyd

Bydd menyw sydd wedi ei chyhuddo o bum llofruddiaeth wedi tân lle bu farw cwpwl ifanc a thri o blant yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron yn Ebrill.
Ymddangosodd Melanie Jane Smith, 43 oed o Brestatyn, ar gyswllt fideo mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Mae hi'n gwadu llofruddio'i chymdogion Liam Timbrell, 23 oed, a'i bartner Lee-Anna Shiers, 20 oed, ynghyd â'u mab Charlie oedd yn 15 mis oed a nith a nai Ms Shears Skye a Bailey Allen oedd yn ddwy a phedair oed.
Bu farw'r pump oherwydd tân yn eu cartref ym Maes-y-Groes, Prestatyn, ar Hydref 19 y llynedd.
Mae'r diffynnydd yn gwadu cyhuddiad arall o fygwth dinistrio neu ddifrodi eiddo drwy fygwth llosgi tŷ ym mis Medi'r llynedd.
Roedd yn byw yn y fflat islaw cartref Liam Timbrell a Lee-Anna Shears ym Mhrestatyn.
Yn Ionawr plediodd yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn.
Yn ystod y gwrandawiad 13 munud o hyd ddydd Mawrth, cyhoeddwyd y byddai'r achos yn ei herbyn yn dechrau ar Ebrill 10 yn Llys y Goron Yr Wyddgrug a bod disgwyl i'r achos bara am dair wythnos.
Doedd dim cais am fechnïaeth a bydd yn y ddalfa tan ddechrau'r achos.
Straeon perthnasol
- 8 Ionawr 2013
- 13 Tachwedd 2012
- 5 Tachwedd 2012
- 20 Hydref 2012