Aelod cynulliad yn ymddiheuro am absenoldeb
- Cyhoeddwyd

Roedd aelod cynulliad yn ei dagrau yn y siambr wrth amddiffyn ei habsenoldeb o gyfarfod pan gafodd ei cheryddu am yfed a gyrru.
Doedd Bethan Jenkins ddim yn y Senedd yr wythnos ddiwetha' pan gafodd ei cheryddu am ddwyn gwarth ar y cynulliad.
Ar y pryd roedd yr AC Plaid Cymru mewn protest bensiynau yn San Steffan.
Mae aelodau'r gwrthbleidiau wedi beirniadu ei habsenoldeb, gan ddweud ei fod yn "amharchus" ac y dylai hi fod wedi dod yno i wynebu ei chyd aelodau.
Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei harestio yn oriau mân y bore gan heddlu yng Nghaerdydd fis Hydref y llynedd.
Cafodd yr aelod 31 oed ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl pledio'n euog yn llys ynadon y brifddinas.
Wedi'r digwyddiad, dywedodd yr aelod rhanbarthol dros dde orllewin Cymru bod yn "ddrwg iawn" ganddi am yr hyn ddigwyddodd a'i bod yn diodde' o iselder.
Beirniadaeth
Casglodd adroddiad y pwyllgor safonau ymddygiad ei bod wedi dwyn anfri ar y sefydliad, a chafodd hynny ei dderbyn gan aelodau cynulliad ddydd Mercher diwetha'.
Ar y pryd, roedd Miss Jenkins mewn protest yn Llundain yn cefnogi cyn-weithwyr ffatri gydrannau ceir Visteon yn Abertawe, sydd wedi colli eu pensiynau.
Roedd hi yn ei dagrau wrth ddarllen datganiad i ACau yn y siambr ddydd Mawrth.
Dywedodd: "Roeddwn i'n sylweddoli y byddwn i'n debygol o gael fy meirniadu am fynd i Lundain, ond roeddwn i'n barod i wynebu hynny er mwyn cefnogi pensiynwyr Visteon. Rwyf wedi bod y tu ôl i'w hymgyrch nawr ers pedair blynedd.
"Hoffwn ddiolch i'r pensiynwyr hynny, i aelodau'r cyhoedd, ac i aelodau cynulliad o bob plaid sydd wedi bod yn gefnogol dros y misoedd diwetha'."
Ychwanegodd: "Hoffwn nodi fy mod wedi ymddiheuro i'r cyhoedd yn barod, ac i'r cynulliad trwy fy natganiadau i'r pwyllgor safonau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012