300 o goed mewn cynllun adfywio
- Cyhoeddwyd

Bydd dros 300 o goed yn cael eu plannu ar un o brif fynedfeydd Aberystwyth fel rhan o gynlluniau i adfywio'r dref.
Bwriad prosiect Coed Aber yw gwella Boulevard St Brieuc ac fe fydd yn costio £375,000 dros dair blynedd.
Bydd y rhodfa o goed yn cael ei hariannu gan gronfa Ardaloedd Adfywio Llywodraeth Cymru, ac mae prosiect Coed Aber yn waith ar y cyd rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Grŵp Aberystwyth Gwyrddach.
Bydd y gwaith yn cychwyn yn fuan gyda'r nod o'i gwblhau erbyn 2015.
Dywedodd Meg Kirby o Grŵp Aberystwyth Gwyrddach: "Sefydlwyd ein grŵp ni i hyrwyddo datblygiad a chadwraeth ardaloedd gwyrdd yn ardal Aberystwyth.
"Mae'r Grŵp wedi breuddwydio am weld rhodfa goediog ar hyd y fynedfa bwysig hon yn Aberystwyth ac rydyn ni wrth ein bodd ei fod bellach am fod yn realiti."
'Nifer o fanteision'
Yn ôl Trefor Owen, Cyfarwyddwr Comisiwn Coedwigaeth Cymru: "Mae nifer yn ystyried mai manteision amgylcheddol yn unig sydd i ddatblygiadau o'r fath, ond maent yn llawer mwy na hynny.
"Mae wedi ei brofi bod yna fanteision i amgylchedd diogel a chroesawgar sydd o ansawdd uchel. O safbwynt economaidd gall ddenu mwy o ymwelwyr a thwristiaid, yn ogystal â hybu buddsoddiad gan y sector fusnes."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru enwi Aberystwyth fel ardal adfywio ym mis Hydref 2009, ac fe ddyfarnwyd £10.3 miliwn i adfywio'r dref ym Mawrth 2010.
Mae prosiectau sydd wedi elwa o'r gronfa yn cynnwys ffordd newydd sy'n cysylltu Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â gwasanaeth bws newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012