Y cartwnydd a'r rhyfel

  • Cyhoeddwyd
TwfFfynhonnell y llun, Western Mail
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Staniforth yn enwog am greu 'Mam Cymru' - gwraig ganol oed mewn gwisg Gymreig a oedd yn symbol o Gymru yn yr un ffordd ac yr oedd Britannia a John Bull yn cynrychioli Prydain Fawr.

Bydd holl gasgliad cartwnydd yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar wefan newydd wedi grant bron i £70,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Fe wnaeth J M Staniforth (1863-1921) gynhyrchu darluniau dyddiol i'r Western Mail yn ystod y rhyfel, gan geisio portreadu agweddau Cymru tuag at y rhyfel.

Bydd hyd at 1,350 o ddelweddau digidol o'r cartwnau yn cael eu cyflwyno, ynghyd â chyd-destun am eu cefndir a sylwadau, gan gynnwys cartwnau a ymddangosodd mewn cyhoeddiadau eraill.

Mae'n rhan o brosiect Creu Cartwnau o'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru a arweinir gan Brifysgol Abertawe.

'Aruthrol o ddylanwadol'

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Chris Williams: "Ar adeg pan oedd y Western Mail yn brif ffynhonnell newyddion rhyngwladol a Chymreig i bobl de Cymru, roedd Staniforth yn gymeriad aruthrol o ddylanwadol.

"Mae cartwnau Staniforth ar gyfer y papur yn ystod y rhyfel yn gofnod arbennig o ymateb creadigol un dyn i'r gwrthdaro.

"Er ei fod ar adegau yn defnyddio hiwmor er mwyn cyfleu ei neges, ar y cyfan roedd ei waith yn ddifrifol ei natur, gan ddarparu sylwebaeth ddyddiol ar gynnydd y rhyfel yn Ffrainc ac yn Fflandrys.

"Gwelodd fod ganddo ddyletswydd i godi calon ac ysgogi cefnogaeth gyhoeddus a chred yn y rhyfel."

Bydd tua 80 o israddedigion Adran Hanes a'r Clasuron Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y prosiect.

Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas y Western Front, Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig a'r Gymdeithas Hanesyddol.

Dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y cartwnau "yn creu darlun unigryw o Gymru ar adeg o dryblith a galar enbyd ac rwy'n falch iawn y byddant ar gael i bawb eu gweld cyn hir".

Ffynhonnell y llun, Western Mail
Disgrifiad o’r llun,
Bydd hyd at 30 o wirfoddolwyr yn ymchwilio i'r cyfnod a chofnodi ymateb pobl i'r cartwnau ac yn cael eu hyfforddi mewn technegau i drosglwyddo'r cartwnau'n ddigidol a'u 'glanhau'