Tân: 'Angen symud gwastraff o dir'

  • Cyhoeddwyd
Smoke from the fire in NantygloFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bu trigolion yn cwyno am y mwg ym mis Ionawr

Nid oedd safle gwastraff ym Mlaenau Gwent, lle cafwyd tân yn llosgi am fwy na 10 diwrnod, yn cyrraedd y 'safonau amgylcheddol uchel' ddisgwyliedig gerllaw ardaloedd preswyl.

Er hynny, dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru na wnaeth perchennog safle A Lewis and Co yn Nant-y-glo dorri ei drwydded ar gyfer y swm o wastraff a storiwyd yn y depo.

Roedd mwg o'r tân wedi achosi diflastod i'r rhai oedd yn byw yn yr ardal wrth i'r tân losgi trwy gydol mis Ionawr.

Mae peth gwastraff gafodd ei symud wrth ymladd y tân yn dal heb gael ei symud oddi ar dir cyfagos y cyngor.

'Adolygu amodau'

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud ei fod yn awr yn 'adolygu amodau' y drwydded ar y safle i sicrhau gwelliannau.

Mae rhai trigolion lleol, nad oedd am gael eu henwi, wedi dweud bod ganddyn nhw bryderon am y ffordd yr oedd y safle'n cael ei weithredu cyn y tân ac ynghylch pa bryd y bydd y gwastraff sy'n weddill yn cael ei glirio.

Dywedodd Rhys Williams, yn siarad ar ran A Lewis and Co, wrth BBC Cymru nad oedd y cwmni yn gyfrifol am y gwastraff erbyn hyn, ac roedd y gwastraff nawr yn fwy drud i gael gwared arno gan ei fod yn wlyb.

Ychwanegodd bod y cwmni wedi cynnig defnyddio ei gerbydau i symud y gwastraff i leoliad arall er mwyn cael gwared arno.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod mewn trafodaethau gyda pherchnogion y safle, ond nad oes unrhyw drefniadau wedi'u gwneud eto ar gyfer symud y gwastraff.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol