Casnewydd 1-2 Kidderminster
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 1-2 Kidderminster
Fe wnaeth Casnewydd golli cyfle i gryfhau eu safle yn y Blue Square Bet ar ôl colli gartre' yn erbyn Kidderminster, sydd nawr yn codi i frig y gynghrair.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 26 munud wrth i Michael Gash rwydo o agos, ond dim ond am dri munud y parodd y fantais wrth i Andy Sandell ergydio o du allan i'r cwrt cosbi i waelod chwith isaf y gôl.
Ond torrwyd calonnau'r Cymry wedi 91 munud wrth i Cheyenne Dunkley sgorio o lai na chwe llath i sicrhau'r triphwynt i'r ymwelwyr.
Gohiriwyd y gêm rhwng Wrecsam ac un un o geffylau blaen arall yr adran, Mansfield, oherwydd cyflwr y Cae Ras ar ôl cyfnod o law trwm.
Straeon perthnasol
- 16 Mawrth 2013
- 19 Chwefror 2013
- 5 Mawrth 2013
- 2 Mawrth 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol