'Dim lle i feirniadu' petai North yn gadael y Scarlets

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan North flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb gyda'r Scarlets

Yn ôl cyn gapten a chyn brif weithredwr clwb rygbi Caerdydd, Gareth Davies, fe allai'r Scarlets elwa'n ariannol petai George North yn penderfynu gadael y rhanbarth.

Ychwanegodd nad oedd lle i feirniadu'r clwb na'r chwaraewr os mai dyma fydd yn digwydd, oherwydd sefyllfa ariannol y gamp yng Nghymru.

Ond rhybuddiodd Davies y byddai colli North yn atgyfnerthu'r teimlad nad yw rhanbarthau Cymru'n gallu cystadlu ar lefel clwb.

Cadarnhaodd asiant North bod 'na drafodaethau ar y gweill gyda Northampton, er bod 'na flwyddyn yn weddill ar gytundeb yr asgellwr yn Llanelli.

Dywedodd Davies fod rhanbarthau Cymru bron fel petai nhw'n cyfaddef mai meithrinfeydd ar gyfer clybiau Ewrop ydyn nhw.

"Os ydyn ni'n mynd i chwarae rôl meithrinfa, yna rydyn ni mwy neu lai yn rhoi'r gorau iddi gartre'," meddai.

"Os y'n ni am gystadlu, yna gwneud hynny. Os ddim, yna mae angen dweud hynny a pheidio camarwain pobl.'"

Sefyllfa ariannol

Mae gan North, 20, flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb gyda'r Scarlets a dydy o ddim yn awyddus i adael Parc y Scarlets, yn ôl ei asiant.

Ond mae Christian Abt yn honni bod y rhanbarth - sy'n gwrthod gwneud unrhyw sylw - wedi bod yn siarad gyda'r Seintiau, ymhlith eraill, ynglŷn â dyfodol North.

Dywedodd fod sefyllfa ariannol y rhanbarthau yn un rheswm dros y trafodaethau.

Mae'r Scarlets, fel pob un o'r rhanbarthau arall yng Nghymru, yn cael trafferthion ariannol ac maen nhw wedi cyfyngu'r swm fydd yn cael ei wario ar gyflogau'r tymor nesa' i £3.5 miliwn.

Byddai disgwyl iddynt elwa'n sylweddol petai nhw'n dod i gytundeb ar North, sy'n cael ei ystyried yn un o asgellwyr gorau'r byd.

Cyflog gwell

Mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi cael eu denu o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, gydag addewid o gyflog gwell yn Lloegr neu Ffrainc.

Bydd Jamie Roberts a Dan Lydiate yn gadael Cymru ar ddiwedd y tymor.

Ond mae Alex Cuthbert wedi penderfynu ymestyn ei gytundeb gyda Gleision Caerdydd, sydd hefyd wedi denu Gethin Jenkins yn ôl o Toulon.

"Mae arian yn amlwg yn ffactor yn hyn, ar y ddwy ochr," meddai Davies.

"Dyw hi ddim yn gyfrinach fod rhanbarthau Cymru'n cael trafferthion ariannol felly os gall y Scarlets sicrhau arian da gan y Seintiau am North, yna mae'n amlwg yn mynd i apelio atyn nhw.

"Ac wrth gwrs o ran George North, mae'n sicrhau ei ddyfodol ei hun, os yw clwb fel Northampton yn dyblu neu dreblu ei gyflog, yna mae'n amlwg yn mynd i edrych ar ôl ei hun.

"Dwi ddim yn credu y gallwn ni feio unrhyw un - fel 'na mae'r sefyllfa fasnachol y dyddiau hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol