Bachgen 12 oed gafodd ei arestio ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 12 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd disgybl arall ei drywanu.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i Ysgol Uwchradd Dyffryn wedi i ddisgybl 12 oed gael anaf i'w goes.
Doedd yr anaf ddim yn ddifrifol ond cafodd y disgybl ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ar gyfer triniaeth.
Mae'r bachgen gafodd ei anafu hefyd wedi cael mynd adre o'r ysbyty.
Dywedodd Cyngor Casnewydd: "Hoffai'r cyngor a'r ysgol bwysleisio mai digwyddiad ar wahân oedd hwn.
"Rydym yn meddwl am y bachgen gafodd ei anafu ac yn gobeithio y bydd yn gwella'n fuan ac yn llawn.
"Ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau."