Agor cwest Ben Thompson

  • Cyhoeddwyd
Ben ThompsonFfynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Diflanodd Ben Thompson ar ôl gwylio gêm rygbi yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn 34 oed wedi i'w gorff gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Ben Thompson, o Hwlffordd, yn afon Elai ger Heol Penarth ar Fawrth 12.

Roedd wedi bod ar goll ers iddo fod yn gwylio gêm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ar Chwefror 2.

Bu hyd at 50 o blismyn, gan gynnwys timau arbenigol, yn chwilio amdano.

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus i'w farwolaeth.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.

Bydd dyddiad ar gyfer y cwest yn cael ei bennu'r wythnos nesa'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol