Angen i Gymdeithas yr Iaith 'dyfu i fyny'?
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews, wedi dweud bod hi'n bryd i Gymdeithas yr Iaith "dyfu i fyny".
Mewn erthygl ar ei wefan - mae'r Gweinidog yn dweud fod y Gymdeithas wedi methu "ymgyfarwyddo â datganoli".
Ond dywedodd y gymdeithas fod "gweithredu uniongyrchol di-drais mor angenrheidiol a pherthnasol ag erioed".
Mae'n ymddangos mai protest y tu fas i Gynhadledd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn Rhydaman wnaeth dynnu blew o drwyn Leighton Andrews.
Safonau iaith
Meddiannwyd car y gweinidog gan aelodau'r Gymdeithas oedd yn protestio yn erbyn ei benderfyniad i wrthod derbyn safonau iaith a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Mr Andrews roedd e eisoes wedi cytuno i gwrdd â'r Gymdeithas i drafod y mater ac roedd y brotest yn ddi-bwrpas.
Mewn sylw fydd yn anfon ias oer lawr cefn ambell i gorff arall dywed Mr Andrews bod y Gymdeithas yn un o nifer o gyrff sydd wedi methu ag ymgyfarwyddo â datganoli.
Hefyd ar ei restr mae'r Eisteddfod, y Cydbwyllgor Addysg ac awdurdodau addysg Cymru.
Dywedodd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Diddorol oedd darllen ei sylwadau am Gymdeithas yr Iaith, ond nid wy'n cytuno bod y Gymdeithas wedi methu ag ymateb i ddatganoli.
"Rydym yn manteisio'n gyson ar y cyfleoedd mae'r drefn ddatganoledig yn ei chynnig ar gyfer lobïo a dylanwadu ar bolisïau.
"Ond o ystyried maint yr her mae'r iaith yn ei hwynebu, a mor ddiffygol yw'r ymateb llywodraethol, credwn fod gweithredu uniongyrchol di-drais mor angenrheidiol a pherthnasol ag erioed.
"Nid mater o geisio 'atal eraill rhag wneud eu gwaith' yw hynny, ond mater o fynnu bod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith".