Lladd-dy: Gweithwyr o blaid streicio

  • Cyhoeddwyd
Welsh Country Foods
Disgrifiad o’r llun,
Mae hyd at 300 o swyddi dan fygythiad

Bydd gweithwyr ffatri brosesu cig ar Ynys Môn yn streicio oherwydd taliadau diswyddo.

Dywedodd undeb Unite fod 300 o weithwyr ar safle Welsh Country Foods yn anfodlon am fod telerau gafodd eu cynnig i weithwyr safle yn yr Alban yn well.

Dywedodd cwmni Vion fod hyn yn "siomedig".

Yn gynharach yn y mis prynodd 2 Sisters Food Group nifer o safleoedd Vion.

Mae 300 o swyddi wedi eu diogelu yn Llangefni, 1,300 yn Sandycroft, Sir y Fflint a 1,300 ym Merthyr Tudful.

Ond bydd Welsh Country Foods yn Y Gaerwen yn cau ar Ebrill 12 os na fydd prynwr.

"Rydym wedi rhoi rhybudd i Vion y byddwn ar streic 48 awr o hanner nos ymlaen ar Fawrth 27," meddai Jamie Pritchard, uwchswyddog undeb yn Y Gaerwen.

Yn Ionawr cyhoeddodd perchnogion Welsh Country Foods yn Y Gaerwen eu bod wedi colli cytundeb cwsmer allweddol, archfarchnad Asda.