Gwahardd parafeddyg am flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Parameddyg
Disgrifiad o’r llun,
Clywodd panel nad oedd wedi mynd â chyfarpar addas

Mae parafeddyg wedi ei wahardd o'i waith am flwyddyn oherwydd oedi cyn helpu claf oedd wedi cael trawiad ar ei galon.

Clywodd panel nad oedd Craig Susdorf o Aberystwyth wedi mynd â chyfarpar addas, bag ymateb a diffibrilydd.

Hefyd roedd wedi gadael i fab y claf yrru ambiwlans i'r ysbyty er nad oedd y mab yn gymwys i wneud hynny.

Dywedodd panel y Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal fod y digwyddiad yn "ynysig".

Ond dywedodd y cadeirydd, Clare Reggiori, fod yr hyn wnaeth y parafeddyg yn cyfateb i gamymddygiad.

"... fe fyddai hunanhyder y cyhoedd yn yr alwedigaeth yn cael ei danseilio os nad ydym yn casglu bod diffygion wedi bod."

Casglodd y panel: "Does 'na ddim tystiolaeth i awgrymu na fydd yn gwella ei berfformiad."

Clywodd y panel fod Susdorf, oedd yn gweithio i'r Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig, wedi bod yn barameddyg ers 1996.