Pysgotwr yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwr o Bortiwgal gafodd anafiadau i'w ben wedi cael ei hedfan i'r ysbyty.
Cafodd Gwylwyr y Glannau wybod am hanner dydd.
Roedd y llong 30 milltir o Benrhyn Santes Ann ar arfordir Sir Benfro ac, er gwaetha' tywydd gwael, cafodd ei hedfan yn hofrennydd yr Awyrlu i Ysbyty Treforys, Abertawe.